Canllawiau ymgeisio
Canllawiau ymgeisio ar gyfer Cynllun Haf y Gyfraith 2023.
​
Bwriad YAGAED a Chymru’r Gyfraith wrth redeg y Cynllun Haf ydy i annog pobol ifanc o Gymru, neu sydd â chysylltiadau cryfion â Chymru i “Anelu’n Uchel”. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn gyrfa yn y gyfraith, rydym ni yma i’ch atgoffa a’ch sicrhau na ddylai unrhyw awrgym o “beidio a dod o’r cefndir iawn” eich rhwystro! Mae meini prawf dethol ein Cynllun Haf yn adlewyrchu hynny.
​
Bydd angen cwblhau tair ffurflen ar y wê:
-
y ffurflen ymgeisio,
-
y ffurflen rhieni/warchodwr; a’r
-
ffurflen i athrawon.
​
Os oes gennych chi, eich rhieni/warchodwr neu athrawon unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag ysgrifennydd YAGAED trwy yrru e-bost at ledletsecretary@outlook.com.
​
​
Meini prawf gofynnol
​
Gallwch ymgeisio i gymryd rhan ar Gynllun Haf YAGAED – Cymru’r Gyfraith os ydy’r ddau maen prawf isod yn gymwys i chi:
-
Rydych chi’n ddisgybl blwyddyn 12, a byddwch o dan ddeunaw oed ar ddiwrnod olaf y Cynllun.
-
Rydych chi’n byw yng Nghymru, neu mae gennych gysylltiadau â Chymru.
​
Yn ogystal â’r meini prawf gofynnol, rydym ni hefyd yn edrych am…
Fe fydd angen i chi egluro pam yr ydych yn haeddu eich lle ar y Cynllun. Yn benodol, dylech ddangos:
​
-
Pam y byddai cyfle fel y Cynllun Haf yn gyfle na fuasai’n bosib i chi ei ennyn fel arall.
-
Eich gallu academaidd.
-
Safon uchel o Gymraeg neu Saesneg.
-
Eglurdeb yn eich gwaith ysgrifenedig.
-
Ymrwymiad a dyfalbarhad i lwyddo.
-
Diddordeb yn y Gyfraith fel gyrfa yn y dyfodol.
​
Materion eraill
​
Gallwch hefyd drafod pynciau eraill a fyddai o gymorth i ni wrth ystyried eich cais, megis:
-
Unrhyw weithgareddau all-gyrsiol
-
Unrhyw brofiad gwaith.
​
Dylech egluro sut yr ydych wedi dod ar draws unrhyw brofiad gwaith a ddarlunir uchod, oherwydd fe fydd eich mynediad i’r cyfleodd hyn yn berthnasol i sut bydd y Cynllun o fudd i chi.
Cefnogi myfyrwyr sy’n gwynebu heriau neu sydd â llai o siawns i elwa o gyfleoedd.
Yn olaf, fe fyddwn yn ystyried (yn gadarnhaol), unrhyw heriau neu ffactorau a all effeithio’r cyfleoedd sydd ar gael i chi. Mae rhai enghreifftiau isod, ond carem pe byddech yn nodi unrhyw beth arall perthnasol sydd wedi / a fyddai’n gallu eich rhwystro rhag cyflawni eich llawn botensial.
​
Gall y rhain gynnwys:
-
Mae gennych anabledd
-
Rydych chi’n gofalu am rywun arall
-
Rydych chi’n yn / wedi bod, mewn gofal h.y. yng ngofal y wlad, gan gynnwys gofal maeth.
-
Chi ydy’r cyntaf yn eich teulu i anelu at addysg uwch.
-
Nid yw unrhyw aelod agos o’ch teulu yn gweithio mewn swydd broffesiynol neu reolaethol uwch
-
Dydych chi ddim yn derbyn unrhyw gymorth ychwanegol trwy’r ysgol (megis lle ar y Rhwydwaith Seren)
-
Rydych chi’n gymwys am ginio ysgol am ddim neu unrhyw gymhorthdal cymorth disgybl.
-
Unrhywbeth sydd wedi amharu ar eich gallu i ennill graddau uwch yn yr ysgol neu goleg.
-
Rydych chi’n byw mewn ardal sy’n ddifreintiedig yn economaidd.
-
Mae canlyniadau Lefel A eich ysgol neu goleg yn is na’r cyfartaledd.
-
Mae llai o niferoedd na’r cyfartaledd o ddisgyblion eich ysgol neu goleg yn mynd yn eu blaen i Addysg Uwch.
-
Rydych chi’n byw mewn ardal sydd yn ei gwneud hi’n anodd i gwblhau profiad gwaith cyfreithiol.
​
Sut i gyflwyno cais
​
​
Fel y nodwyd uchod, dylid llenwi a chyflwyno’r ffurflen ar lein.
Mae posib y bydd YAGAED / Cymru’r Gyfraith yn cysylltu â rhiant/gwarchodwr a/neu athro i wirio cynnwys eich cais.
Os nad ydych wedi derbyn cydnabyddiaeth o’ch cais erbyn 1 Mawrth 2023, cysylltwch a gweinyddwr y Cynllun trwy ledletsecretary@outlook.com ogydd.
Dyddiad cau y ffurflen gais ydy 12 Chwefror 2023.
​